Lleoliad:
Cynhadledd Fideo Zoom
Dyddiad: Dydd Llun, 11 Mai 2020
Amser:
12.30 -
14.01
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd) Rebecca Evans AS Darren Millar AS Siân Gwenllian AS Caroline Jones AS |
Staff y Pwyllgor: |
Aled Elwyn Jones (Clerc) |
Eraill yn bresennol |
Ann Jones AS, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Gwion Evans, Pennaeth Swyddfa Breifat y Llywydd Elin Roberts, Cynghorwr Polisi i'r Llywydd Helen Carey, Llywodraeth Cymru Bethan Garwood, Dirprwy Glerc |
Cytunodd y Pwyllgor ar gofnodion y cyfarfod ar gyfer eu cyhoeddi.
Adborth o Gyfarfod Llawn yr wythnos diwethaf Gofynnodd y Llywydd i'r Rheolwr Busnes atgoffa'r Aelodau o'r cyfyngiadau amser wrth siarad, ac i fod yn gryno.
Cwestiynau Amserol
Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylai Cwestiynau Amserol barhau i gael eu hamserlennu ar ôl Datganiad y Prif Weinidog, ac y dylid gwneud unrhyw benderfyniad i symud cwestiwn yn gynharach yn y sesiwn gyda chytundeb y Pwyllgor Busnes drwy e-bost.
Trefn siaradwyr ar ddatganiadau
Cadarnhaodd y Llywydd o ran datganiadau, y bydd y Ceidwadwyr yn cael eu galw gyntaf chwe gwaith am bob pum gwaith y bydd Plaid Cymru yn cael ei galw gyntaf. Mae hyn yn unol â'r dyraniad arferol a ddefnyddir o ran cwestiynau Arweinwyr a llefarwyr.
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i barhau â'r arfer o beidio â chael unrhyw gwestiynau ar y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes.
Galw yn ôl
Gofynnodd Sian Gwenllian am alw'r Senedd yn ôl bore yfory, er mwyn trafod rheoliadau newydd Covid-19 sydd yn dod i rym yng Nghymru a Lloegr, a'r gwahaniaeth yn null gweithredu'r ddwy lywodraeth. Nid oedd y Rheolwr Busnes eraill yn cytuno fod angen galw'r Senedd yn ôl cyn y cyfarfod a drefnwyd ar gyfer dydd Mercher felly barn y mwyafrif oedd yn erbyn y cynnig.
Tynodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y ffaith y bydd Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2020 yn cael eu hychwanegu at amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer dydd Mercher 20 Mai. Bydd hyn yn eu galluogi i gael eu hystyried ar y cyd â Rheoliadau Diwygio Rhif 2 sydd eisoes wedi eu hamserlennu ar gyfer y diwrnod hwnnw.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylai'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad adrodd yn ôl mewn pryd i'r ddwy gyfres o reoliadau gael eu trafod yr un pryd.
Dydd Mercher 3 Mehefin 2020
· Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) (Diwygio) (Coronafeirws) 2020 (15 munud)
Cytunodd y Pwyllgor i barhau i amserlennu Cwestiynau Amserol fel yr unig eitem o fusnes y Senedd am y tair wythnos nesaf.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i ymgynghori â'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar yr amserlen ddiwygiedig arfaethedig ar gyfer y Bil, a dychwelyd at y mater ar ddyddiad arall.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ardrethu Annomestig (Toiledau Cyhoeddus) i Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, a chytuno ar ddyddiad cau ar gyfer adrodd ar ddyddiad arall.
Roedd mwyafrif y Rheolwyr Busnes yn fodlon i'r Cyfarfod Llawn barhau i gael ei gynnal ar ddydd Mercher am y tro. Roeddent yn cytuno hefyd pe bai'r busnes yn cynyddu'n sylweddol - er enghraifft adroddiadau Pwyllgorau ar Covid-19 yn ymwneud â chraffu - byddai angen rhannu'r cyfarfod yn sesiynau bore a phrynhawn.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gynyddu'r gymhareb o nifer yr Aelodau Llafur (gan gynnwys Gweinidogion), y Ceidwadwyr Cymreig, Plaid Cymru a Phlaid Brexit i 16, 8, 7 a 3 o'r wythnos hon, gyda'r posibilrwydd o gynyddu nifer yr Aelodau i'r 60 llawn ar ôl yr hanner tymor.
Trafododd y Rheolwyr Busnes weddill yr elfennau ar y papur a chytuno i drafod gyda'u grwpiau a dychwelyd at y mater wythnos nesaf, gyda'r bwriad o wneud newidiadau ar ôl yr hanner tymor.
Awgrymodd Darren Millar greu pwyllgor ar wahân i ganolbwyntio ar Covid-19, fel yr argymhellwyd mewn llythyr gan Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig at y Llywydd. Gofynnodd y Llywydd i'r ysgrifenyddiaeth ddosbarthu llythyr at y Rheolwyr Busnes y tu allan i'r pwyllgor, ac i grwpiau ystyried y cynnig ynghyd â'r papur ar y Cyfarfod Llawn.
Mae'r Pwyllgor Busnes wedi cytuno i amserlennu dim ond dadleuon yn ymwneud â Covid-19 yn y tymor byr, a nododd y Rheolwyr Busnes hefyd nad yw Senedd Frys rithwir yn gydnaws, ar hyn o bryd, â dadleuon a thrafodaethau ar faterion yn ymwneud â Safonau.
Er mai mater i'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad yw sancsiynau, nododd y Pwyllgor Busnes hefyd efallai nad yw rhai o'r sancsiynau a restrir yn Rheol Sefydlog 22.10, megis tynnu hawliau oddi ar Aelod o ran mynediad i ystâd y Senedd, yn briodol yn yr amgylchedd seneddol rithwir.
Trafododd y Pwyllgor Busnes yr amserlen, a chytuno arni. Cytunodd y Rheolwyr Busnes hefyd y dylai amser pwyllgorau ar fore Mawrth fod rhwng 9.00am ac 11.00am er mwyn caniatáu i gyfarfodydd grwpiau barhau i ddechrau am 11.00am.